Croeso i Ardal Hyfforddi Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol Grŵp 6

Beth yw Deddf VAWDASV?

Mae Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2014 yn gyfraith nodedig, y cyntaf o’i bath yn y DU. Diben y Ddeddf hon yw darparu:

  • Trefniadau ar gyfer atal trais yn seiliedig ar ryw, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
  • Trefniadau ar gyfer amddiffyn dioddefwyr trais yn seiliedig ar ryw, cam-drin domestig, a thrais rhywiol.
  • Cefnogaeth i bobl sydd wedi’u heffeithio gan drais yn seiliedig ar ryw, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
  • Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol
  • Dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi a gweithredu strategaeth genedlaethol ar gyfer mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, a dyletswydd ar awdurdodau lleol i lunio a gweithredu strategaethau lleol.

Beth yw'r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol?

Y cyntaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig, bydd ein Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol yn cynnig hyfforddiant cymesur i gryfhau’r ymateb a ddarperir ledled Cymru i’r rhai sy’n profi VAWDASV. Bydd yn gwneud hyn o fewn cyd-destun cenedlaethol sy’n sicrhau ansawdd yr hyfforddiant, a bod yr arfer proffesiynol gofynnol yn cael ei safoni. Bydd hyn yn sicrhau, ni waeth ble mae goroeswr yn cael mynediad i wasanaethau yng Nghymru, fod yr ymateb proffesiynol a gânt yn gyson ragorol.

Sut mae Grŵp 6 yn cyd-fynd â'r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol?

Mae Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol wedi’i ffurfio o chwe grŵp a maes llafur pwnc arbenigol. Er bod rhywfaint o ddilyniant o fewn y Fframwaith, yn gyffredinol mae pob rhan ohono’n ymwneud â grŵp penodol o broffesiynau a fydd, ar ôl hyfforddiant, yn rhan o weithlu sy’n gweithio tuag at nod cyfunol; gwella’r ymateb i’r rhai sydd wedi profi VAWDASV.